Isaiah 31

Peidiwch trystio'r Aifft

1Gwae'r rhai sy'n mynd i lawr i'r Aifft am help,
a'u ffydd mewn ceffylau rhyfel!
Y rhai sy'n dibynnu ar eu holl gerbydau
a'u nifer fawr o farchogion,
yn lle edrych ar Un Sanctaidd Israel
a gofyn am help yr Arglwydd. a
2Ond mae e hefyd yn ddoeth!
Fe sy'n dod â trwbwl,
a dydy e ddim yn torri ei air.
Bydd yn codi yn erbyn y genedl ddrwg
a'r rhai sy'n ei helpu i bechu.
3Pobl feidrol ydy'r Eifftiaid, nid Duw,
a'u ceffylau yn gnawd, nid ysbryd!
Pan fydd yr Arglwydd yn estyn ei law,
bydd yr helpwr yn baglu
a'r un sy'n cael ei help yn syrthio –
Bydd hi wedi darfod ar y ddau gyda'i gilydd!

4Dyma mae'r Arglwydd wedi ei ddweud wrtho i:

Fel mae llew, neu lew ifanc,
yn rhuo uwchben ei ysglyfaeth,
a ddim yn dychryn wrth glywed sŵn
criw o fugeiliaid yn dod ar ei ôl.
Dyna sut bydd yr Arglwydd holl-bwerus yn dod i lawr
i ymladd dros Fynydd Seion ar ei bryn.
5Fel mae adar yn hofran yn yr awyr,
bydd yr Arglwydd holl-bwerus
yn amddiffyn Jerwsalem.
Bydd yn ei hamddiffyn a'i hachub
yn ei harbed a'i rhyddhau.

6Blant Israel, trowch yn ôl at yr Un dych chi wedi gwrthryfela mor ddifrifol yn ei erbyn. 7Bryd hynny bydd pob un ohonoch yn gwrthod yr eilunod o arian ac aur a wnaeth eich dwylo pechadurus.

8“Bydd Asyria'n cael ei difa,
ond nid gan gleddyf dynol;
cleddyf Duw fydd yn eu taro.
Byddan nhw'n ffoi rhag y cleddyf,
ond bydd eu milwyr gorau yn gaethweision.
9Bydd eu ‛craig‛ yn diflannu mewn dychryn,
a'u swyddogion yn ffoi rhag baner eu gelyn.”
Dyna mae'r Arglwydd yn ei ddweud –
sydd a'i dân yn Seion,
a'i ffwrnais yn Jerwsalem.
Copyright information for CYM